Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Gorffennaf 2012
Adroddiad ar yr amserlen ar gyfer ystyried Bil Archwilio Cyhoeddus
(Cymru)
1. Ar 9 Gorffennaf 2012, cafodd Bil Llywodraeth, ‘Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)’, ei gyflwyno yn y Cynulliad.
2. Ar 19 Mehefin 2012, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.9, i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, er mwyn iddo ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt.
3. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, trefnodd y Pwyllgor Busnes amserlen i’r Pwyllgor ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chytunodd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 23 Tachwedd 2012.
4. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 1
Chwefror 2013, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion
cyffredinol y Bil.